Mewngofnodi fel cyflogwr

Pam defnyddio jobscymraeg.com?

Gwefan ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau cyflogi siaradwyr Cymraeg yw jobscymraeg.com. Mae'n hawdd i'w ddefnyddio, ac yn ffordd rad o hysbysebu.

Pa mor hawdd yw defnyddio'r wefan?

Gallwch fod yn derbyn ceisiadau am ffurflenni cais mewn cyn-lleied â thri cham.

Sgiliau iaith

Ar bob hysbyseb swydd mae adran sgiliau iaith ar gyfer y gallu i siarad Cymraeg, y gallu i ysgrifennu'n Gymraeg a'r gallu i ddarllen Cymraeg. Ar gyfer y tair elfen gellir dynodi os yw'n ofynnol neu'n ddymunol.

Pris

Cost hysbyseb yw £25.00 (does dim TAW), a does dim gwahaniaeth yn y pris os yw'r dyddiad cau mewn 3 wythnos neu 3 mis.

Amgylchiadau arbennig

Gellir cynnig gostyngiadau os ydych yn rhagweld y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd. Cysylltwch â ni er mwyn taro bargen.

Os ydych yn gwmni neu sefydliad cenedlaethol a bod yr un swydd yn wag mewn mwy nag un lleoliad (e.e. un yn swyddfa'r gogledd a'r llall yn swyddfa'r de), cewch osod hysbyseb unigol i bob swydd wag am bris un, cyn belled a bod teitl y swydd, y swydd ddisgrifiad a'r dyddiad cau i gyd yr un fath.

Dull talu

Ar ddiwedd pob mis byddwch yn derbyn un anfoneb drwy'r post am yr holl swyddi rydych wedi eu gosod ar y wefan yn ystod y mis. Disgwylir taliad drwy siec o fewn 28 diwrnod.

Polisi Iaith

Fel y gwelwch mae'r wefan yn gwbwl ddwyieithog a chroesawir gohebiaeth yn y ddwy iaith. Gan ei bod yn bosib cyrchu'r wefan yn Gymraeg neu'n Saesneg, gofynnaf i chi nodi manylion pob swydd wag rydych yn ei osod yn y ddwy iaith. Efallai bydd rhai ohonoch sy'n siaradwyr Cymraeg yn amau beth yw diben hysbysebu swyddi sydd wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg yn Saesneg. Mae hyn yn gwestiwn teg wrth gwrs, ond dyma fy rhesymau dros ofyn i chi wneud hyn:

  1. Byddai rhai ymgeiswyr sydd efallai unai heb ddefnyddio eu Cymraeg ers amser neu'n ddysgwyr yn gwbwl addas ar gyfer swydd, ond eu bod yn dewis darllen y wefan yn Saesneg.

  2. Os yw pobl di-gymraeg yn cyrchu'r wefan a'u bod yn rheini sy'n ystyried anfon eu plant drwy'r sustem addysg Gymraeg, gallant weld bod amrediad eang o wahanol swyddi lle mae bod yn ddwyieithog yn fanteisiol.

  3. Rheswm hunanol ar fy rhan i, ond os ydy cyflogwr di-gymraeg sydd eisiau cyflogi rhywun dwyieithog yn ymweld â'r wefan ac yn cyrchu'r fersiwn Saesneg, dymunaf i'r nifer fwyaf o swyddi gwag ymddangos i ddangos bod y wefan yn cael ei defnyddio.

Os ydych yn anhapus â'r syniad o'ch swydd yn cael ei rhestru'n Saesneg, gofynnaf i chi Gysylltu â Ni er mwyn dod i ddealltwriaeth.